Am ddod â’ch disgyblion i’r Senedd ar gyfer sesiwn addysgol, gweithdy neu daith am ddim?
Mae ein rhaglenni addysg, sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm newydd, yn ffordd benigamp o helpu eich myfyrwyr i ddysgu am wleidyddiaeth Cymru.
Mae ein rhaglenni addysg ar gyfer tymor yr Haf 2024 bellach yn llawn. Fe allwch drefnu i ymweld â'r Senedd ond ni fydd cymhorthdal teithio ar gael ar gyfer teithiau cyffredinol. Bydd y calendr ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf yn agor ddydd Mawrth 4 Mehefin.
Byddwch yn ymwybodol ein bod yn rhagweld y bydd rhywfaint o waith adeiladu yn cael ei wneud yn y Senedd yn ystod 2025. Byddwn yn parhau i ddarparu ein rhaglenni addysg ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i'r cynlluniau fynd rhagddynt.